Y Parc Cenedlaethol yn croesawu myfyrwyr i helpu i ehangu gyrfaoedd amgylcheddol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi canmol wyth myfyriwr ysgol uwchradd am gwblhau eu profiad gwaith ledled y Parc Cenedlaethol y mis hwn.

Mae’r myfyrwyr, sydd rhwng 16 ac 17 oed ac o Ysgol Uwchradd Crucywel, Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Ysgol Uwchradd Gwernyfed, Ysgol Glantaf ac Ysgol Gyfun Gwynllyw, wedi bod yn gweithio gyda Wardeniaid, Swyddogion Addysg ac Ecolegwyr y Parc Cenedlaethol i helpu i gynnal a chadw llwybrau a’r ardd bywyd gwyllt, adeiladu ardaloedd cychod gwenyn, cynnal arolygon bioamrywiaeth a dysgu am brosesau cynllunio polisi a mapio GIS. Mae’r myfyrwyr hefyd wedi cwblhau Gwobr Darganfod John Muir – sef gwobr amgylcheddol sy’n cefnogi cysylltiadau â natur, tirwedd a’r amgylchedd naturiol a gofal amdanynt – y gwobrau cyntaf i gael eu darparu gan staff y Parc Cenedlaethol.

Trwy weithio ochr yn ochr â swyddogion y Parc Cenedlaethol mae’r myfyrwyr wedi gallu cyflawni gwaith o fewn amser, dadansoddi data o arolygon a deall natur a goblygiadau gweithio i Barc Cenedlaethol. Roedd y myfyrwyr hefyd yn gallu datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy ddysgu arferion gwaith ecogyfeillgar a chael profiad ymarferol gwerthfawr ar y safle.

Meddai Francesca Bell, Swyddog Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddarparu profiad gwaith gwerthfawr i bobl ifanc i’w helpu i ddod o hyd i ffordd i ymuno â marchnad swyddi gystadleuol tu hwnt. Mae’r gwaith mae’r bobl ifanc hyn eisoes wedi’i gyflawni yn golygu eu bod nhw eisoes wedi cymryd y cam cyntaf ar yr ysgol yrfa ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r safbwynt newydd y maen nhw wedi’i roi i ni.”

Meddai Judith Harvey, Rheolwr Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Gyda’r farchnad swyddi fel y mae, mae hi’n bwysicach nag erioed bod myfyrwyr yn gwella eu dealltwriaeth o’r amgylchedd gwaith ac yn ennill profiad gwerthfawr. Dechreuodd rhai o’n Rheolwyr Ardal a’n Wardeniaid mwyaf profiadol eu gyrfaoedd fel gwirfoddolwyr dan hyfforddiant, felly mae hynny’n brawf bod yr oedolion ifanc hyn mewn dwylo diogel i dderbyn arweiniad a gwell cyfleoedd cyflogaeth yn y meysydd gyrfa o’u dewis. Rydyn ni’n gobeithio y bydd prosiectau profiad gwaith fel hyn yn gam cyntaf pwysig o ran darbwyllo ein hoedolion ifanc i fyw a gweithio yn y Parc, gan gyfrannu at ddatblygiad economaidd a threftadaeth ddiwylliannol ein cymunedau.”

Meddai Martha Powell, sy’n astudio yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu: “Roeddwn i am wneud y lleoliad gwaith yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol gan y byddai’n gyfle i mi weithio ym myd natur. Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i weithio tuag at Wobr John Muir ar yr un pryd, a bydd hyn yn beth da i’w ychwanegu at fy CV.”

Meddai Phil Stubbington o Ymddiriedolaeth John Muir: “Rydyn ni wedi datblygu perthynas waith gref gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r berthynas honno yn fawr iawn. Mae gweithio gyda’r Parc Cenedlaethol yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd, cael profiad o sefyllfaoedd gwaith go iawn a chwblhau prosiectau amgylcheddol pwysig megis Gwobr John Muir. Mae’r berthynas hon o fudd i bawb.”

-DIWEDD-