Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog – ydych chi’n barod am ŵyl hydref heb ei hail?

Cynnyrch tymhorol, arddangosiadau coginio, ryseitiau a mynediad AM DDIM – y cynhwysion perffaith ar gyfer 17eg Gŵyl Fwyd flynyddol Bannau Brycheiniog a gynhelir ddydd Sadwrn 4 Hydref rhwng 10am a 5pm.

Gyda chynhyrchwyr bwyd, tyfwyr lleol a chogyddion heb eu hail, mae Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog bellach yn cael ei hystyried fel chwaer fach i Ŵyl Fwyd fyd-enwog Y Fenni – gan gynnig y cynnyrch Cymreig gorau sydd i’w gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Disgwylir y bydd yr Ŵyl, a gynhelir yn Neuadd Farchnad Aberhonddu a’r strydoedd o’i chwmpas, yn denu tyrfaoedd o bobl sy’n awyddus i flasu danteithion lleol, oll wedi’u cynhyrchu a’u ffermio yn ardal hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn wir, mae’n debygol y bydd y cynnyrch wedi teithio llai o bellter na’r ymwelwyr sy’n dod i’w mwynhau.

Bydd gwledd o ddanteithion ar gael gan 70 o arddangoswyr, gan gynnwys 19 o newydd-ddyfodiaid sy’n awyddus i farchnata eu helgig, cig carw, cig oen Morfa Heli, bara, crempogau, pasta, cyri, siocled, jam, mêl, pysgod, llysiau cartref, seidr, cwrw, gwirodydd a llawer mwy. Gallwch chi hyd yn oed ddechrau meddwl am beth rydych chi am ei goginio i ginio Nadolig!

Bydd yna lu o arddangosiadau coginio byw gan gogyddion lleol adnabyddus megis Nerys Howells, Tony Price (Gwesty’r Coach House), Colin Grey, Steven Williams (Neuadd Buckland) a Karl Cheetham (Gwesty’r Gliffaes), heb sôn am y frwydr fawr rhwng Derek Brockway a Sue Charles. Yn dychwelyd eleni mae cystadleuaeth Gogydd Ifanc y Flwyddyn (i blant o dan 10 oed) – a noddir gan St Nicholas House, Coleg Crist. Bydd yna hefyd lawer o ganu ac adloniant lleol yn ystod y dydd, gyda pherfformiadau gan y gantores opera Jennifer Parry, a fu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod, Côr Merched Llanfair-ym-Muallt a Chôr Meibion Aberhonddu.

Gyda llawer iawn o lefydd i eistedd a mwynhau’r arddangosiadau ac i wrando ar y gwahanol gorau, a chyda phob math o fwydydd a diodydd blasus o’ch cwmpas, mae Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn ddiwrnod perffaith i bawb – o’r rhai sy’n hoff iawn o fwyd i’r rhai sy’n hoffi blasu gwahanol fwydydd, teuluoedd ac ymwelwyr.

“Eleni, rydyn ni wedi gwneud cystal ag erioed, gyda 70 o gynhyrchwyr bwyd a diod wedi cofrestru i fod yn bresennol. Mae’r twf dros y 14 mlynedd diwethaf yn dangos y llwyddiant a ddaw i arddangoswyr sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog. Mae trefnu a bod yn rhan o Ŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog yn brofiad heb ei ail a hoffwn i ddiolch i bawb sy’n dod â stondin, ffermwyr a chyflenwyr lleol sydd wedi cefnogi’r ŵyl fwyd hon ac sy’n gwneud ymdrech fawr i gynhyrchu’r bwyd gorau posibl. Mae’r awyrgylch, arogl bwyd cartref a gweld cymaint o deuluoedd hapus yn llenwi eu bagiau siopa gyda bwyd lleol yn dod â boddhad mawr”, meddai trefnydd yr Ŵyl Fwyd a Rheolwr Arlwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Andrew Powell.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rwy’n mynd i’r ŵyl hon bob blwyddyn gan fy mod i’n canu gyda Chôr Meibion Aberhonddu, ac mi fydda i yno eleni eto. Mae’r ŵyl yn uchafbwynt i bobl leol ac ymwelwyr. Waeth a ydych chi’n brynwr, yn gynhyrchydd neu’n werthwr – os ydych chi’n hoff o fwyd lleol, mae’n rhaid i chi ymweld â ni y penwythnos hwn. Dyma’r ffordd berffaith o groesawu’r hydref a thymor y cynhaeaf ac rydyn ni’n falch iawn o gefnogi pawb sy’n helpu i wneud yr ŵyl hon yn ddigwyddiad mor arbennig yn y calendr bwyd.”

Yn ogystal â chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r Ŵyl Fwyd hefyd yn cael ei noddi gan Goleg Crist, sy’n noddi cystadleuaeth Cogydd Ifanc y Flwyddyn, y Brecon & Radnor Express, National Farmers Mutual, Bwydydd Castell Howell, Celtic Pride, Brecon Carreg, y Felinfach Griffin sy’n rhan o’r Eat Drink Sleep Group a Gwesty’r Castell Aberhonddu.

-DIWEDD-