Yr haf hwn, bu bron i bedwar cant o bobl ifanc yn ymestyn eu hymennydd a’u cyrff, gan ddefnyddio GPS i chwilio am gliwiau cudd yn y dirwedd, diolch i Dîm Geogelcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r prosiect yn targedu pobl ifanc rhwng un ar ddeg a phump ar hugain oed sy’n agored i niwed neu sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am a chymryd rhan mewn geogelcio. Gweithgaredd hamdden yn yr awyr agored yw Geogelcio lle defnyddir teclyn GPS neu ffonau symudol i chwilio am gynwysyddion a gaiff eu hadnabod fel ‘geogelc’ neu ‘gelc’. Caiff lleoliad y celciau eu nodi gan gyfesurynnau a gellir dod o hyd iddyn nhw ar draws y byd.
Mae tîm Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu hyfforddiant geogelcio i arweinwyr grwpiau ieuenctid ac yn helpu i arwain sesiynau fel y gall grwpiau o bobl ifanc gymryd rhan yn y gweithgaredd. Maen nhw hefyd yn darparu cymorth i grwpiau ieuenctid allu sefydlu llwybrau geogelcio yn eu rhanbarthau eu hunain. Mae’r prosiect yn annog pobl ifanc i ddefnyddio technoleg mewn modd fydd o fudd i’w iechyd trwy eu cael i fod yn weithgar yn yr awyr agored, ac fe’i hariennir gan Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Deborah Perkin, Aelod Eiriolwr y Parc Cenedlaethol dros Fusnesau a Chymunedau: “Mae’n braf bod y Parc Cenedlaethol wedi darparu hwyl iach i bron i bedwar cant o bobl ifanc bregus ac sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol, yr haf hwn. Mae Geogelcio wedi profi i fod yn ffordd wych o gael pobl ifanc allan yn yr awyr agored – mae’n gyfuniad perffaith o dechnoleg GPS cyfoes ac awyr iach hen ffasiwn, ac yn gyfle i gael hwyl gyda grŵp o ffrindiau. Beth yw pwrpas y Parc Cenedlaethol os nad yw er budd i iechyd a thawelwch meddwl pawb?”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ilona Carati neu Matt Phillips, Arweinwyr Gweithgareddau ar geocaching@beacons-npa.gov.uk
– DIWEDD –