Camau gweithredu cymunedol i gadw bysiau ‘Hay Ho!’

Mae grŵp lleol wedi cymryd camau i gadw gwasanaeth bws rhwng Henffordd a’r Gelli Gandryll ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc: Mae Grŵp Twristiaeth y Gelli Gandryll wedi ymuno â’i bartneriaid, Rail for Herefordshire, Herefordshire Ramblers a Siambr Fasnach y Gelli Gandryll, i redeg gwasanaeth bws rhwng y Gelli Gandryll a Henffordd ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc – ei enw fydd llwybr ‘Hay Ho!’.

Mae Cyngor Tref y Gelli Gandryll yn cefnogi’r prosiect mewn egwyddor ac mae wrthi’n edrych ar ffyrdd y gall gefnogi’r bws. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gontractio gan y tîm trafnidiaeth teithwyr yng Nghyngor Swydd Henffordd. Cyflwynwyd y prosiect arloesol hwn o ganlyniad i astudiaeth a gomisiynwyd gan Brosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r Cynghreiriau Gwledig yn cael eu cydariannu gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin yr UE, Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Roedd yr astudiaeth yn cydnabod yr angen i ddwyn ynghyd grwpiau cymunedol sy’n poeni am y bwriad i ddileu’r gwasanaeth bws 39A presennol ar ddyddiau Sul. Cafodd y pryderon hyn eu pwysleisio mewn cyfarfod cyhoeddus yn y Gelli Gandryll fis diwethaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymwelwyr am aros yn y Gelli Gandryll a’r cyffiniau dros y penwythnos a dal bws yn ôl i Henffordd ddydd Sul er mwyn dal trên yn ôl i Lundain, Canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr. Mae gweithredwyr twristiaeth lleol yn teimlo bod yna farchnad fawr ar gyfer ymwelwyr dydd â’r Gelli Gandryll, lle mae’r rhan fwyaf o’r siopau ar agor drwy’r dydd a gydol y flwyddyn. Bydd pobl leol yn elwa ar y gwasanaeth bws hwn hefyd.

Mae Grŵp Twristiaeth y Gelli Gandryll yn un o 12 o grwpiau Cynghreiriau Gwledig ledled y Parc Cenedlaethol. Meddai Anna Heywood o Grŵp Twristiaeth y Gelli Gandryll:

“Mae ein staff gwybodaeth i dwristiaid yn derbyn llawer o geisiadau ynghylch teithio i Henffordd ar ddydd Sul, ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y gwasanaeth bws newydd yn cyd-fynd â’n digwyddiadau megis Gŵyl Gerdded y Gelli Gandryll a Gŵyl Feicio’r Gelli Gandryll. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod y bws yn rhan annatod o brofiad twristiaid; mae cael cyfle i fwynhau’r golygfeydd wrth deithio drwy’r Dyffryn Aur i’r Gelli Gandryll yn gystal cyflwyniad i’n hardal ni ag y gallwch chi ei gael.”

Bydd y gwasanaeth bws newydd, sy’n rhannol ddisodli’r llwybr 39A presennol rhwng Henffordd ac Aberhonddu, yn dechrau ddydd Sul 5 Hydref. Bydd tri bws y dydd yn gadael Henffordd am y Gelli Gandryll, am 1010, 1310 a 1610. Bydd teithiau dychwelyd yn gadael y Gelli Gandryll am 1150, 1450 a 1720. Bydd y bws yn gwasanaethu pentrefi Clehonger, Kingstone, Madley, Vowchurch, Peterchurch a Dorstone. Meddai Les Lumsdon o Rail For Herefordshire:

“Mae hwn yn ddull arloesol lle mae grwpiau a chymunedau yn gallu cynllunio’r amserlen a’r prisiau. Byddwn ni’n cynnig tocynnau dydd ar gyfer unigolion a theuluoedd, er enghraifft, ac yn ystyried tocynnau sengl rhatach i ddenu pobl ifanc. Rydyn ni wedi penderfynu galw’r llwybr yn ‘Hay Ho!’ gan ein bod ni am iddo fod yn ffordd ddifyr a hwylus o deithio rhwng Henffordd a’r Gelli Gandryll.”

Cysylltiadau

Les Lumsdon, Rail for Herefordshire: 01584 877588

Anna Heywood, Grŵp Twristiaeth y Gelli Gandryll: 01497 821134

Richard Tyler, Rheolwr Twristiaeth Gynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: 01874 620405

-DIWEDD-