Hanes cyfoethog aur gwyn y Mynydd Du

Heddiw (dydd Iau 21 Awst), lansiwyd llwybr treftadaeth amlgyfrwng newydd sy’n adrodd hanes cyfoethog chwareli calch y Mynydd Du.

Mae’r llwybr Calch, a grëwyd gan Ymddiriedolaeth Archeoleg Dyfed, yn defnyddio nodwyr llwybr, canllaw sain, taflenni ac ap ffôn symudol i dywys ymwelwyr o gwmpas chwareli “aur gwyn” y Mynydd Du.

Cafodd y llwybr ei lansio’n swyddogol gan y Gweinidog Diwylliant John Griffiths a’r darlledwr lleol Roy Noble yng Nghanolfan y Mynydd Du ym Mrynaman, lle mae’r daith yn dechrau. Hefyd yn bresennol roedd llawer o’r gwirfoddolwyr lleol a helpodd Ymddiriedolaeth Archeoleg Dyfed gyda’r arolwg, y gwaith cloddio a’r gwaith cadwraeth ar y safle gydol y prosiect tair blynedd.

Mae’r prosiect £300,000 wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd Canolfan y Mynydd Du, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Amgueddfa Cymru yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r prosiect hefyd.

Meddai Mr Griffiths: “Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cefnogi’r prosiect cyffrous hwn a fydd yn helpu i adrodd sut y gwnaeth y diwydiant calch helpu i greu’r Gymru rydyn ni’n ei hadnabod heddiw. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod safleoedd treftadaeth yn llefydd hygyrch a difyr i ymwelwyr ac i bobl leol. Bydd Llwybr Chwareli’r Mynydd Du yn gwneud i fwy o bobl werthfawrogi amgylchedd hanesyddol Cymru.”

Meddai Duncan Schlee, Rheolwr Prosiect CALCH: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda chymunedau lleol a’n partneriaid i ymchwilio i hanes y diwydiant calch ar y Mynydd Du. Bydd y llwybr a’r daith sain o gwmpas y chwareli yn dod â’r agwedd hon a anghofiwyd o hanes Sir Gâr yn fyw i ymwelwyr â’r rhan hardd hon o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Meddai Ken Murphy, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeoleg Dyfed: “Mae prosiect CALCH wedi bod yn gyfle gwych i’r Ymddiriedolaeth ddatblygu cysylltiadau gweithio newydd a helpu cymunedau lleol a’r rhai sy’n ymweld â Sir Gâr i ddeall a gwerthfawrogi treftadaeth ddiwydiannol Cymru.”

Meddai Mr John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae hi wedi bod yn bleser cefnogi lansiad y llwybr CALCH newydd. Mae ein partneriaid a’n cymunedau wedi cyfrannu llawer iawn o waith ymchwil, cadwraeth ac allgymorth at wahanol elfennau’r prosiect i sicrhau ei fod yn llwyddiannus. Prosiectau fel hyn sy’n codi proffil yr atyniadau treftadaeth hygyrch sydd gennym ni ar ein stepen drws. Mae ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr trwy ein treftadaeth leol a’n hamrywiaeth yn golygu y bydd mentrau fel hyn yn parhau i ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd eraill i rannu ein hanes ac adrodd ein straeon.”

Mae’r llwybr yn cynnwys gwybodaeth ar safle Chwareli’r Mynydd Du, gyda chymorth llwybr sain ar ap Chwareli’r Mynydd Du, sydd ar gael i’w lawrlwytho ar bob platfform gweithredu ffonau symudol. Bydd nodwyr llwybr ledled y safle a thaflen yn helpu i dywys pobl o gwmpas y chwareli a’u hannog i wrando ar y sylwebaeth.

-DIWEDD-