Opera yn y Parc 24 Awst

Cymunedau’n methu aros i glywed Opera yn y Parc

Dim bob dydd mae ymwelwyr a phobl Cwm Tawe Uchaf yn cael cyfle i glywed opera ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos. Ond bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu 100 mlynedd ers perfformiad proffesiynol olaf Adelina Patti ddydd Sul 24 Awst. Adelina Patti oedd cantores opera enwocaf y byd ddechrau’r 1900au a bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio rhai o hoff ganeuon Adelina Patti ar lawnt Pafiliwn Patti mewn cyngerdd am ddim ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos.

Mae 100 mlynedd ers perfformiad proffesiynol olaf y gantores soprano fyd-enwog Adelina Patti, ond mae pobl ardal Cwm Tawe Uchaf yn dal i gofio’n annwyl amdani. Ddydd Sul 24 Awst am 6pm, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu gwaith Adelina Patti gyda chyngerdd awyr agored am ddim ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos – sef cyn-safle ei Chastell ysblennydd (sydd bellach yn westy preifat sy’n boblogaidd iawn ar gyfer priodasau). Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Gyngor Sir Powys ac mae’n rhan o Gynghreiriau Gwledig Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a ariennir gan raglen Interreg 1VB Gogledd-orllewin Ewrop yr UE a Chronfa Arian Cyfatebol a Dargedir Llywodraeth Cymru. Er bod y digwyddiad am ddim, codir ffi o £2.00 i barcio ar safle ar y dydd – bydd y Parc Gwledig ar gau i geir pan fydd y digwyddiad yn llawn.

Yn ystod y prynhawn, bydd cerddorion o Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnal gweithdai offerynnau taro ar gyfer teuluoedd ac yn chwarae mewn gwahanol rannau o’r Parc. Gall ymwelwyr hefyd gael cipolwg ar y perfformiad ei hun yn ystod yr ymarfer prynhawn.

Am 6pm, bydd y soprano o UDA Mary Elizabeth Williams a Cherddorfa Siambr Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio rhai o ganeuon mwyaf adnabyddus Adelina Patti, ynghyd â rhai o’r ffefrynnau cerddorfaol, ar lwyfan ar waelod grisiau Pafiliwn Adelina ar dir y Parc Gwledig.

Roedd Adelina yn arfer cynnal cyngherddau achlysurol ar risiau ei Phafiliwn ac roedd hi’n teimlo bod amffitheatr naturiol y bryniau yn darparu sain rhagorol i’w chynulleidfa. Bydd y cyngerdd am ddim yn gyfle i’r rhai sy’n ymddiddori mewn opera brofi hynny.

Mae gwaith Mary Elizabeth Williams gydag Opera Cenedlaethol Cymru y tymor hwn wedi cael ei gymeradwyo gan feirniaid a chynulleidfaoedd. Yn ystod tymor yr haf, mae hi wedi ymddangos gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn opera Verdi, Nabucco, felly mae hi ond yn naturiol ei bod hi’n perfformio rhai o ganeuon enwocaf Adelina gan fod Verdi wedi disgrifio Adelina Patti fel un o’r cantorion gorau erioed.

Mae yna hefyd arddangosfa fach i’w gweld yn yr hen bantri helwriaeth, sydd wedi’i adnewyddu, ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos, a gall aelodau o’r gynulleidfa sydd â munud neu ddwy yn rhydd ddewis dilyn y llwybr i fyny i weld yr arddangosfa. Mae’r llwybr wedi’i nodi gyda’r geiriau Home Sweet Home – sef un o ganeuon enwocaf Adelina. Bydd y Tawe Guild of Weavers, Spinners and Dyers yn y Parc Gwledig hefyd dros benwythnos gŵyl y banc gydag arddangosfa yn Ystafell Hibbert.

Meddai’r Cynghorydd Geraint Hopkins, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio cyngerdd am ddim ac yn cynnal gweithdai i blant lleol ym Mharc Gwledig Craig-y-Nos. Cafodd Adelina Patti effaith fawr ar fywydau’r rhai oedd yn byw yn yr ardal hon yn ystod ei hoes ac mae talu teyrnged iddi trwy gyngerdd awyr agored yn brofiad arbennig iawn. Bydd yn gyfle hefyd i’r rhai oedd yn rhy ifanc i werthfawrogi neu sydd efallai wedi anghofio ei harddull, ei charedigrwydd, ei dawn a’i ffordd o fyw.”

Meddai Stephen Davies, Cadeirydd Cyngor Cymuned Tawe Uchaf: “Mae ein cymunedau yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad hwn ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i roi cyhoeddusrwydd iddo. Rwy’n edrych ymlaen at weld pobl gyda’u picnic yn mwynhau’r Opera yn y Parc.”

Meddai Peter Harrap, Cyfarwyddwr Corws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru:

“Mae’n bleser gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y prosiect cyffrous hwn prynhawn a min nos y 24ain. Bydd perfformio fel hyn i gymuned leol Adelina 100 mlynedd ar ôl ei pherfformiad diwethaf, yn y ffordd y gwnaeth hi ei arloesi ac y byddai hi’n ei chymeradwyo yn sicr, yn ogystal ag i ystod ehangach o ymwelwyr sy’n pasio drwy’r ardal, yn fraint i’n seren o gantores, ein harweinydd a’n cerddorion. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o groesawu pawb i’r lleoliad hardd a swynol hwn.”

-DIWEDD–