Pâr o Langynidr yn dod i’r brig yn Her Bwlch gydag Agwedd

Ddywedodd neb y byddai’n hawdd ond tri o drigolion Llangynidr ddaeth i’r brig yn her Bwlch gydag Agwedd wythnos diwethaf ar ôl cerdded dros 12 milltir a datrys cyfres o bosau ar y ffordd.

Llwyddodd tîm ‘The Deadly Duo’ i guro deg tîm brwd arall a chipio’r tlws ‘Bwlch gydag Agwedd’ hollbwysig ar ôl cwblhau’r daith o 12 milltir a’r posau a oedd yn cychwyn ac yn gorffen yn y Bwlch, ger Crucywel.

Llwyddodd Grant a Louise Barlow o Langynidr – a’r enw tîm priodol ‘The Deadly Duo’ – ynghyd â thîm arall o Langynidr, ‘The Beat Nic’s’, i ganfod pob un o’r atebion i gwestiynau’r her a oedd wedi’u gosod ar hyd y llwybr. Gofynnwyd cwestiwn arall i geisio gwahanu’r ddau dîm a Grant Barlow o ‘The Deadly Duo’ oedd y cyntaf i wasgu’r botwm ac ennill y wobr aur i’w dîm. Fe enillon nhw grysau T ynghyd â £100 i elusen o’u dewis, sef Tîm Achub Mynydd Aberhonddu.

Dechreuodd y timau o’r Ganolfan Cig Carw a’r siop fferm ar ôl cael coffi ffres a brownis siocled gan Elaine Morgan, cyn teithio dros Fynydd Llan-gors i gwrdd â Jim Price yn y pwynt Trig i gyfri’r timau, ac yna i lawr i’r siop ar lannau Llyn Syfaddan i gael picnic wedi’i baratoi gan Nina Davies o’r siop.

Ar gyfer y cymal olaf, roedd rhaid i’r timau ddringo’r Allt ac yna’n ôl i’r Ganolfan Cig Carw a’r siop fferm. Cyrhaeddodd y timau cyntaf yn ôl am 3pm a gorffennodd y tîm olaf am 6pm.

Llwyddodd Elaine Morgan o’r ganolfan i grynhoi’r diwrnod:

“Rydym ni’n falch iawn o’r ymateb rydym ni wedi ei gael nid yn unig gan bobl leol ond gan ymwelwyr hefyd. Roedd hi’n wych gweld cynifer o gerddwyr yn dod i’r Bwlch a cheisio dod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau ac roedd e’n gyfle hefyd i ymwelwyr a thrigolion ddysgu mwy am yr ardal wrth gerdded.”

–  DIWEDD –