Ethol Cadeirydd a Dirprwy newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Yn dilyn cyfarfod blynyddol cyffredinol a gynhaliwyd yn swyddfeydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddydd Gwener 27 Mehefin 2014, cafodd y Cynghorydd Geraint Hopkins ei ethol fel y Cadeirydd newydd, a Mrs Melanie Doel ei hethol fel y Dirprwy Gadeirydd, ynghyd â Chadeiryddion a Dirprwyon y Pwyllgorau Cynllunio, Archwilio a Chraffu.  

Cafodd y Cynghorydd Geraint Hopkins ei ethol yn unfrydol gan yr holl Aelodau a oedd yn bresennol fel Cadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r Cynghorydd Hopkins yn olynu Mrs Julie James, cynrychiolydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, cafodd Mrs Melanie Doel, cyn-gyflwynydd y BBC sydd bellach wedi’i phenodi’n aelod o’r Awdurdod gan Lywodraeth Cymru, ei dewis yn unfrydol fel Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod.

Yn ei haraith ffarwel, gofynnodd Mrs James i’r Aelodau gefnogi’r addewid a wnaeth mewn cyfarfodydd blaenorol i sicrhau mai’r Awdurdod fyddai’r Parc Cenedlaethol yn y DU sy’n ‘ystyriol o ddementia’ – a chafwyd cefnogaeth lwyr o blaid y gosodiad. Siaradodd hefyd am y fraint a’r pleser o fod yn Gadeirydd dros y tair blynedd diwethaf.

Wrth gyfarch yr Aelodau ar ôl cael ei benodi’n Gadeirydd, diolchodd y Cynghorydd Geraint Hopkins i’r cyn-Gadeirydd am ei holl gymorth a chefnogaeth gan ddweud:  “Braint ac anrhydedd o’r mwyaf yw cael f’ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod gan fy nghydweithwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf er mwyn llywio’r Awdurdod hwn ymlaen.”

Dywedodd Mrs Melanie Doel, Dirprwy Gadeirydd newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:  “Mae’n ddyddiau anodd i’r Awdurdod ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r Cadeirydd a’n tîm o Aelodau a staff rhagorol yn y flwyddyn i ddod.”

Meddai John Cook, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:   “Hoffwn estyn croeso cynnes i’r Cynghorydd Hopkins fel ein Cadeirydd newydd a Mrs Melanie Doel fel ein Dirprwy Gadeirydd. Mae swyddogion yr Awdurdod hwn yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a’n holl Aelodau dros y flwyddyn i ddod. Hoffwn ddiolch o galon hefyd i Mrs Julie James, ein cyn-Gadeirydd, sydd wedi arwain Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gydag arweiniad cryf, barn gadarn a brwdfrydedd heintus heb ei ail.”

Cafodd y Cynghorydd Evan Morgan o Gyngor Sir Powys ei ailethol am y bedwaredd flwyddyn fel Cadeirydd Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy, ac ail-etholwyd Mr Martin Buckle, cynrychiolydd wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru, yn Ddirprwy Gadeirydd iddo.

Cafodd Mr Alan Lovell, Aelod wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru ei ailethol ar gyfer ei bedwaredd flwyddyn fel Cadeirydd Archwilio a Chraffu, a chafodd y Cynghorydd Ann Webb o Gyngor Sir Fynwy ei hailethol yn Ddirprwy Gadeirydd am y trydydd tro.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i strwythurau pwyllgorau ac aelodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod yn www.beacons-npa.gov.uk

-Diwedd-