Paratowch ar gyfer Geofest

Mae Geofest 2017 wedi cychwyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn rhedeg tan 4 Mehefin. Mae’r ŵyl yn ddathliad o Geoparc UNESCO Fforest Fawr yng ngorllewin y parc ac yn cynnwys teithiau cerdded, sgyrsiau a Diwrnod Gweithgareddau teulu sy’n hynod boblogaidd ym Mharc Gwledig Craig y Nos ddydd Mercher nesaf, 31 Mai, 10am-4pm.

Eleni gall ymwelwyr ddisgwyl hyd yn oed mwy o’r diwrnod gweithgareddau i’r teulu ar y ddôl ganolog ym Mharc Gwledig Craig y Nos. Yn newydd ar gyfer 2017 mae cyfle i roi cynnig ar ganŵio ar y llyn neu archwilio ogof gwydr ffibr yn ogystal â’r wifren wib sydd mor boblogaidd ag erioed. Gallwch hefyd gyfarfod â hebogiaid a gwenyn. Dewch â’r ci hefyd gan y bydd Theresa Toomey, sy’n arbenigwr ar ymddygiad cŵn, wrth law i gynnig cyngor arbenigol ar eich holl gwestiynau’n ymwneud â chŵn, ond cofiwch gadw’ch anifail anwes ar dennyn. Bydd cyfeiriadu, ‘geocaching’, cerfio cerrig, gwehyddu, ardaloedd chwarae mwdlyd a gweithgareddau daeareg, bywyd gwyllt ac archaeoleg. Nodwch os gwelwch yn dda y codir tâl parcio o £5 ar gyfer ceir.

Os oes yn well gennych, mae rhaglen o deithiau cerdded ar gael trwy gydol yr wythnos yn yr ŵyl, sy’n berffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau archwilio’r Geoparc. Datblygodd y parc dros 480 miliwn o flynyddoedd ac mae ganddo dirwedd amrywiol sydd wedi’i gerfio gan rew ac wedi cael ei newid ymhellach gan y rhai hynny sy’n byw yno. Dilynwch drywydd y trigolion cynharaf a chwiliwch am y carneddau niferus o’r Oes Efydd ar daith gerdded ‘Carneddau Cadlan’, ar ddydd Iau 26 Mai neu dysgwch sut mae daeareg yn dylanwadu ar lystyfiant drwy ymuno â’r daith gerdded ‘Carreg Cennen i Garreg Las’, ar ddydd Mawrth 30 Mai. I weld y rhaglen gyfan ac archebu lle ewch i www.fforestfawrgeopark.org.uk

Dywedodd Ian Rowat, Aelod Eiriolwr dros Fioamrywiaeth a’r Amgylchedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Mae’r dathliad blynyddol hwn o’r Geoparc yn arbennig iawn eleni diolch i lwyddiant Fforest Fawr o adennill ei deitl mawreddog fel Geoparc Byd-eang UNESCO yn gynharach eleni. Mae Geofest yn rhoi cyfle i bawb  ddysgu mwy am yr ardal, ei daeareg, ei bywyd gwyllt a’r bobl sydd wedi ei llunio.”

DIWEDD