Mae’n bleser gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi eu bod wedi penodi Julian Atkins fel eu Prif Swyddog Gweithredol. Bydd Julian yn dechrau ar ei waith ar 1 Chwefror 2018.
Ar hyn o bryd Julian yw Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad yn y parc ac fe bleidleisiodd aelodau’r Awdurdod yn unfrydol o’i blaid ar ôl ymgyrch recriwtio helaeth a phroses ddethol gystadleuol iawn a oedd yn cynnwys rhai ymgeiswyr allanol cryf iawn.
Bydd John Cook, Prif Swyddog Gweithredol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymddeol yn gynnar y flwyddyn nesaf ac yn ystod y tri mis nesaf bydd yn sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo yn rhedeg yn llyfn ac yn effeithlon.
Croesawodd Mel Doel, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian i’r swydd, gan ddatgan; “Rydym wrth ein bodd fod Julian wedi’i benodi i’r swydd allweddol hon, ac rydym yn hyderus y bydd y cryfder a’r sgiliau arwain y mae wedi’u dangos yn ei yrfa hyd yma gyda ni ac yn ystod y broses ddethol yn ei roi mewn sefyllfa dda i wynebu’r heriau i ddod.”
Rhoddodd Mel ganmoliaeth hefyd i’r Prif Swyddog Gweithredol cyfredol, John Cook, a’i gyfraniad, trwy ddweud; “Dymunaf fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn gyhoeddus i John a’i ganmol am y gwaith neilltuol y mae wedi’i wneud dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gan weddnewid yr awdurdod hwn i’r awdurdod bywiog ac uchel ei barch sydd gennym heddiw.”
DIWEDD